Telerau Defnyddio'r Wefan

Ynglŷn â'r wefan hon
Mae'r wefan hon wedi'i datblygu gan EGY ar ran Cyngor Gwynedd er mwyn darparu gwybodaeth am Brosiect Seilwaith Glas a Gwyrdd Gwynedd. Bwriedir i'r wybodaeth a ddarperir fod yn ganllaw cyffredinol ac i hysbysu aelodau'r cyhoedd am y prosiect, ei gynnydd a'r cyfleoedd i roi adborth.

Cywirdeb y wybodaeth
Er bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau bod y wybodaeth a gyhoeddir ar y wefan hon yn gywir ac yn gyfredol, nid yw EGY, y tîm dylunio ehangach na Chyngor Gwynedd yn gwarantu bod yr holl wybodaeth yn gyflawn, yn gywir nac yn rhydd o wallau. Gall y wybodaeth gael ei diweddaru, ei diwygio neu ei dileu heb rybudd.

Gwefannau allanol
Gall y wefan hon gynnwys dolenni i wefannau allanol, gan gynnwys gwefan Cyngor Gwynedd. Nid yw EGY yn gyfrifol am gynnwys, argaeledd nac arferion preifatrwydd gwefannau allanol.

Hawlfraint
Oni nodir yn wahanol, mae'r holl destun, graffeg, ffotograffau, cynlluniau a chynnwys arall ar y wefan hon wedi'u diogelu gan hawlfraint. Caniateir gweld a lawrlwytho'r deunydd at ddefnydd personol, anfasnachol yn unig. Ni ddylid ei atgynhyrchu, ei ddosbarthu na'i ddefnyddio at ddibenion masnachol heb ganiatâd ymlaen llaw.

Atebolrwydd
Nid yw EGY, y tîm dylunio ehangach na Chyngor Gwynedd yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod sy'n deillio o ddefnyddio, neu ddibynnu ar, y wybodaeth a geir ar y wefan hon.

Newidiadau
Gall y Telerau Defnyddio hyn gael eu diweddaru o bryd i'w gilydd. Mae parhau i ddefnyddio'r wefan hon yn gyfystyr â derbyn unrhyw delerau diwygiedig.

Hysbysiad Preifatrwydd

Cyflwyniad
Mae'r wefan hon yn darparu gwybodaeth am Brosiect Seilwaith Glas a Gwyrdd Gwynedd ar ran Cyngor Gwynedd. Nid yw'r wefan ei hun yn casglu gwybodaeth bersonol gan ymwelwyr drwy ffurflenni ar-lein na chyfrifon defnyddwyr.

Cysylltu â thîm y prosiect

Os byddwch yn dewis cysylltu â thîm y prosiect drwy ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost a gyhoeddwyd, bydd unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir gennych yn cael ei phrosesu gan Gyngor Gwynedd yn unol â deddfwriaeth diogelu data'r DU. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio er mwyn ymateb i'ch ymholiad neu ystyried eich sylwadau mewn perthynas â'r prosiect yn unig.

Rheolydd Data

Cyngor Gwynedd yw'r Rheolydd Data ar gyfer unrhyw wybodaeth bersonol a gyflwynir drwy e-bost mewn perthynas â'r prosiect hwn. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Gwynedd yn prosesu gwybodaeth bersonol ac am eich hawliau o dan GDPR y DU, cyfeiriwch at Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Gwynedd.

Eich hawliau
Mae gennych hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data'r DU, gan gynnwys yr hawl i ofyn am fynediad at eich gwybodaeth bersonol, gofyn am gywiro gwybodaeth anghywir ac, lle bo'n berthnasol, gofyn i wybodaeth gael ei dileu.

Cysylltu
Os oes gennych gwestiynau ynghylch prosesu eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â Chyngor Gwynedd gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a ddarperir ar eu gwefan.

Tim prosiect

Cyngor Gwynedd Logo
Eryri National Park Logo

Cleient

EGY Design Logo

Peiriannydd Sifil ac Ymgynghorydd Arweiniol

Okra Logo

Pensaer Tirwedd

CHP Logo

Ymgynghorydd Cost

Tranquil City Logo

Gwerthusiad Effaith

Cyllidwyr