Prosiect Cyngor Gwynedd o ddylunio seilwaith glas a gwyrdd ar draws naw tref yng Ngwynedd,
i gefnogi gwydnwch hinsawdd ac adferiad natur.
Mae’r prosiect yn dylunio seilwaith glas a gwyrdd mewn lleoliadau ar draws naw tref yng Ngwynedd.
Mae’n ymateb uniongyrchol i gynllun adfer natur a gwydnwch hinsawdd y sir, yn ymrwymiad i arafu a glanhau’r dŵr sy’n rhedeg trwy ein strydoedd, gwneud mwy o le i natur, a helpu cymunedau i ymateb i hinsawdd sy’n newid.
Mae pob tref yn cael ei hystyried yn ôl ei rhinweddau ei hun. Nid yw’r hyn sy’n gweithio ar yr arfordir yn gweithio yn yr ucheldiroedd. Y canlyniad fydd cyfres o ddyluniadau ar draws lleoliadau penodol sy’n cael eu llunio o amgylch cymeriad, y dŵr, a phobl pob lle.
Mae'r wefan hon yn dilyn ein gwaith dylunio wrth iddo ddatblygu. Wrth i ardaloedd cyfle gael eu nodi, eu gwerthuso ac yna eu dylunio, byddwch yn gallu gweld y cynigion diweddaraf, a chael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd i ddweud eich dweud.
Mae'n ffordd o reoli dŵr glaw gan ddefnyddio natur yn hytrach na defnyddio pibellau yn unig.
Mae dŵr yn cael ei arafu, ei lanhau a'i ddefnyddio uwchben y ddaear, mewn nodweddion sydd hefyd yn gwneud lle'n fwy gwyrdd ac yn fwy dymunol i fod ynddo.
Yn lle rhuthro’n syth i’r draeniau, mae dŵr glaw yn cael ei ddal yn ôl fel nad yw’n rhoi gormod o bwysau ar y system ar yr un pryd.
Mae pridd a phlanhigion yn hidlo llygredd o ffyrdd a thoeau cyn i ddŵr gyrraedd ein hafonydd a’r môr.
Mae gerddi glaw, coed ac ardaloedd wedi'u plannu yn dod a bywyd gwyllt yn ôl i galon eich tref, gan greu cysgod a chyfleoedd i orffwys ac ymlacio.
Strydoedd gwyrddach, oerach a thawelach sy’n ymdopi’n well â glaw trwm ac sy’n lleoedd brafiach i gerdded, eistedd a threulio amser ynddynt.
Cyflwynir y prosiect mewn dau gam.
Dewiswch dref i weld sut mae'r dyluniad yn datblygu a chael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd i ddweud eich dweud.
Eich strydoedd chi yw’r rhain. Mae’r dyluniadau’n well gyda’ch mewnbwn chi.
Os hoffech gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect, rhowch eich cyfeiriad e-bost yn y blwch isod a chliciwch ar “Anfonwch e-byst ataf gyda’r manylion diweddaraf ”. Yna caiff eich cyfeiriad e-bost ei ychwanegu at restr bostio’r Cyngor er mwyn i chi dderbyn diweddariadau am y prosiect yn y dyfodol.
Os hoffech gysylltu â ni ynghylch unrhyw ymholiadau cyffredinol eraill, defnyddiwch y cyfeiriad e-bost isod i anfon e-bost atom.
Rydym yn gwahodd pawb i gymryd rhan mewn arolwg byr am eu cysylltiad â natur yn yr ardal leol.
Hoffem ddeall sut rydych yn defnyddio ac yn profi mannau gwyrdd lleol er mwyn inni allu gweithio gyda chymunedau i wella mynediad at natur er budd pobl a bywyd gwyllt. P’un a ydych yn breswylydd, yn berchennog busnes, yn ymwelydd neu’n randdeiliad lleol, byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn.
Bydd eich ymatebion yn ein helpu i greu darlun o sut mae pobl yn gwerthfawrogi ac yn rhyngweithio â mannau gwyrdd lleol cyn i unrhyw waith gwella gael ei wneud.
Bydd yr arolwg yn cymryd tua 5–10 munud i’w gwblhau, a bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael cyfle i gael eu cynnwys mewn cystadleuaeth i ennill gwobr.