Mae'r gystadleuaeth yn agored i unigolion sydd wedi cwblhau'r arolwg perthnasol ac wedi cyflwyno eu cyfeiriad e-bost drwy ddefnyddio ffurflen gais y gystadleuaeth.
Mae mynediad i'r gystadleuaeth yn rhad ac am ddim. Nid oes angen prynu unrhyw beth i gymryd rhan. Caniateir un cais yn unig i bob person. Gall ceisiadau dyblyg gael eu dileu.
Bydd un enillydd yn derbyn un goeden ffrwythau dreftadaeth. Nid oes modd trosglwyddo'r wobr ac nid oes dewis amgen o arian parod na gwobr arall ar gael.
Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap ar ôl y dyddiad cau a chysylltir â nhw gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd. Os na fydd yr enillydd yn ymateb o fewn 14 diwrnod i gael ei hysbysu, mae Cyngor Gwynedd yn cadw'r hawl i ddewis enillydd arall.
Rhaid casglu'r wobr yn bersonol o:
Pencadlys Cyngor Gwynedd
Stryd y Jêl
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH
Ni fydd y wobr yn cael ei hanfon drwy'r post, ei dosbarthu na'i chludo gan gwmni danfon. Cyfrifoldeb yr enillydd yw trefnu cludiant a sicrhau y gellir cludo'r goeden ffrwythau yn ddiogel o'r man casglu.
Drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth, rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen ac yn cytuno i'r Telerau ac Amodau hyn.
Bydd y cyfeiriad e-bost a ddarperir gennych yn cael ei ddefnyddio at ddibenion gweinyddu'r gystadleuaeth yn unig, gan gynnwys cysylltu â'r enillydd. Caiff ei anfon yn ddiogel at Gyngor Gwynedd at y diben hwn ac ni chaiff ei gadw gan y wefan hon.
Bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu yn unol â deddfwriaeth berthnasol GDPR a Diogelu Data y DU.
Mae Cyngor Gwynedd yn cadw'r hawl i ddiwygio neu dynnu'r gystadleuaeth yn ôl os bydd angen gwneud hynny oherwydd amgylchiadau sydd y tu hwnt i'w reolaeth resymol. Mae penderfyniad Cyngor Gwynedd ynghylch yr enillydd yn derfynol.